Hanes Gwlad Groeg

Hanes Groeg yw hanes Gwlad Groeg fel y mae heddiw, ond gall hefyd gynnwys hanes yr ardal eangach oedd yn ffurfio'r byd Groegaidd yn y cyfnod clasurol.

Ar lannau'r Môr Aegeaidd y datblygodd gwareiddiadau cyntaf Ewrop. Y cynharaf oedd y Gwareiddiad Minoaidd ar ynys Creta, gyda Knossos fel ei ganolfan. Yn ddiweddarach, datblygodd y Gwareiddiad Myceneaidd ar y tir mawr. Wedi diwedd y gwareiddiad yma, bu cyfnod a adwaenir fel Oesodd Tywyll Groeg, ond yna blodeuodd y cyfnod clasurol. Yn draddodiadol, dyddir hwn o ddyddiad cynnal y Gemau Olympaidd cyntaf yn 776 CC.

Y ffurf nodweddiadol ar lywodraeth yn y cyfnod yma oedd y polis (dinas-wladwriaeth). Lledaenodd y diwylliant Groegaidd a gwladychwyr Groegaidd i Asia Leiaf a de yr Eidal (Magna Graecia). Ymladdodd Athen a Sparta gyda'i gilydd i drechu ymosodiad Ymerodraeth Persia yn y 5eg ganrif CC. Yn ddiweddarach, ymladdwyd Rhyfel y Peloponnesos rhyngddynt, gyda Sparta yn gorchfygu Athen i ddod yn brif rym milwrol Groeg am gyfnod. Yn ddiweddarch, gorchfygwyd Sparta gan Thebai.

Daeth Macedonia yn feistr ar y dinas-wladwriaethau Groegaidd gan Philip II, brenin Macedon, a than ei fab ef, Alecsander Fawr, gorchfygwyd a dinistriwyd yr Ymerodraeth Bersaidd. Dechreuodd hyn y Cyfnod Helenistaidd. Wedi marwolaeth Alecsander, bu ymladd rhwng ei gadfridogion, a rhannwyd ei ymerodraeth. Concrwyd Groeg yn derfynol gan y Rhufeiniaid yn 146 CC, a daeth yn rhan o Ymerodraeth Rhufain.

Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, datblygodd yr Ymerodraeth Fysantaidd, gyda Caergystennin fel prifddinas. Parhaodd yr ymerodraeth hyd at gwymp Caergystennin yn 1453. Daeth Groeg yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd, a pharhaodd dan reolaeth Otomanaidd hyd ar Ryfel Annibyniaeth Groeg(1821 - 1829). Sefydlwyd teyrnas gan y brenin Otto.

Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymladdodd Groeg yn erbyn Twrci (1919-1922), gan feddiannu tiriogaethau sylweddol am gyfnod cyn cael eu gyrru'n ôl gan |Mustafa Kemal Atatürk. Yn 1940, ymosododd yr Eidal ar Wlad Groeg, ond gorchfygwyd yr Eidalwyr gan y Groegiaid, a bu'n rhaid i fyddin yr Almaen ymyrryd a meddiannu Groeg.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ymladdwyd Rhyfel Cartref Groeg rhwng byddinoedd Comiwnyddol a Brenhinol. Yn 1967, cipiwyd grym gan junta milwrol adain-dde. Adferwyd democratiaeth yn 1975. Ymunodd Groeg a'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1981, ac arweiniodd hyn at gynnydd economaidd sylweddol. Mabwysiadwyd yr Ewro yn 2001.


Developed by StudentB